Y Ddeddf Meinwe Ddynol

Mae’r Ddeddf Meinwe Ddynol yn diddymu ac yn cymryd lle Deddf Meinwe Ddynol 1961, Deddf Anatomi 1984 a Deddf Trawsblannu Organau Dynol 1989, fel y maent yn ymwneud â Lloegr a Chymru, a’r Gorchmynion cyfatebol yng Ngogledd Iwerddon. Dilëir yr Unrelated Transplant Regulatory Authority (ULTRA) a swydd Arolygwr Anatomi EM a throsglwyddir eu gweithgarwch i’r HTA.

O dan y Ddeddf Meinwe Ddynol, cytundeb yw’r egwyddor hanfodol sy’n rheoli cadw a defnyddio rhannau o’r corff, organau a meinwe, o unigolion byw neu farw, yn gyfreithiol, i’w defnyddio i ddibenion sy’n ymwneud â iechyd, ac arddangos yn gyhoeddus. Mae’r Ddeddf Meinwe Ddynol hefyd yn rheoli sut mae’r fath ddefnydd yn cael ei gymryd oddi ar y meirw. Mae’n rhestru’r dibenion lle mae’n rhaid cael cytundeb (y Bwriadau Rhestredig, neu’r “Scheduled Purposes”).
Mae Ddeddf Meinwe Ddynol (Yr Alban)  yn seiliedig ar awdurdod yn hytrach na chytundeb, ond mae’r ddwy ddeddf yn mynegi’r un egwyddor.
Mae’r ddeddfwriaeth newydd yn effeithio ar nifer o feysydd yn uniongyrchol: gwasanaethau patholeg, ysgolion anatomi, y gymuned drawsblannu, sefydliadau sy’n cadw meinwe er mwyn defnydd dynol neu ddibenion ymchwil, a safleoedd sy’n arddangos defnydd dynol, fel amgueddfeydd. Fodd bynnag, dylai pob gweithiwr proffesiynol iechyd, gwyddoniaeth a meysydd priodol eraill fod yn gyfarwydd â phwyntiau allweddol y Ddeddf Meinwe Ddynol, er mwyn sicrhau bod eu gwaith yn cydymffurfio â’r ddeddf.

Mae nifer o’r gweithgareddau sy’n dod o dan Ddeddf Meinwe Ddynol yn cael eu rheoli yn gyfreithiol neu’n wirfoddol yn barod. Bwriad y ddeddfwriaeth newydd yw sicrhau bod y fframweithiau rheoli yn gyson.

  • Mae’r Ddeddf Meinwe Ddynol yn rheoli’r ffordd y mae meinwe dynol – sy’n ddiffiniedig fel defnydd ddaw o gorff ddynol, ac sy’n cynnwys celloedd dynol – yn cael ei thynnu, ei chadw a’i defnyddio. Unwaith daw’r Ddeddf Meinwe Ddynol i rym, bydd y gweithgareddau trwyddedig hyn yn anghyfreithiol heb drwydded.
  • Mae’r Ddeddf Meinwe Ddynol yn creu tramgwydd newydd o ‘ddwyn’ DNA. Ar ôl Medi 1 2006, bydd cadw meinwe ddynol er mwyn dadansoddi ei DNA, heb gytundeb y person lle cafwyd y feinwe, yn anghyfreithiol.
  • Mae’r Ddeddf Meinwe Ddynol yn ei gwneud yn gyfreithlon i gymeryd y camau lleiaf posibl i ddiogelu organau unigolyn sydd wedi marw er mwyn eu defnyddio i’w trawsblannu, tra mae camau yn cael eu cymryd i ddatrys dymuniadau’r ymadawedig, neu (yn niffyg unrhyw ddymuniadau hysbys) i sicrhau cytundeb gan rywun mewn perthynas briodol.
  • Mae’r Ddeddf Meinwe Ddynol yn rhoddi hawl diamod i amgueddfeydd penodol yn Lloegr i ddwyn gweddillion dynol o’u casgliadau, os oes cred resymol mae gweddillion person a fu farw lai na 1000 o flynyddoedd yn ôl ydynt.

Tramgwyddau dan y Ddeddf Meinwe Ddynol

Mae’r tramgwyddau presennol dan y Ddeddf Anatomi 1984 a’r Ddeddf Trawsblannu Organau Dynol 1989 yn cael eu dwyn ymlaen i’r Ddeddf Meinwe Ddynol, gyda chodiad yn y cosbau uchaf. Fodd bynnag, mae’r Ddeddf Meinwe Ddynol yn cynnwys nifer o dramgwyddau newydd, gyda chosbau sy’n ymestyn o ddirwy i dair mlynedd mewn carchar, neu’r ddau.

Y tramgwyddau hyn, sydd i gyd yn orfodadwy yn 2006, yw:

  • Tynnu, cadw neu ddefnyddio meinwe ddynol i ddibenion y Bwriadau Rhestredig, heb gael y cytundeb priodol.
  • Cadw neu ddefnyddio meinwe ddynol roddwyd i ddiben Bwriad Rhestredig er mwyn pwrpas arall.
  • Delio mewn meinwe ddynol i ddibenion trawsblannu.
  • Gweithredu gweithgareddau trwyddedig heb gael trwydded gan yr HTA (gyda chosbau llai am dramgwyddau llai sy’n berthnasol, fel peidio dangos cofnodion, neu rwystro’r HTA rhag gweithredu ei rym neu gyfrifoldebau).
  • Cael meinwe ddynol, gan gynnwys gwallt, gewyn a gametau (h.y. celloedd sy’n ymwneud ag atgenhedliad rhywiol), gan fwriadu dadansoddi ei DNA heb gytundeb y person lle cafwyd y feinwe, neu’r rhai sy’n agos i’r person os yw wedi marw (ac eithrio diagnosis a thriniaeth, ymholiadau troseddol, a.y.y.b.)

Mae’r pedwar tramgwydd cyntaf yn berthnasol yn Lloegr, Cymru a Gogledd Iwerddon yn unig, ond bydd yr Ddeddf Meinwe Ddynol (Yr Alban)  yn cyflwyno tramgwyddau a chosbau tebyg. Mae’r dramgwydd o ddwyn DNA yn berthnasol drwy’r Deyrnas Unedig i gyd.