Trwyddedu
Bydd yn rhaid i chi wneud cais i’r HTA am drwydded os ydych chi yn ymgymryd ag unrhyw un o’r gweithgareddau isod yn eich adeiladau.
- Archwiliadau anatomaidd
- Archwiliadau post mortem
- Tynnu defnydd post mortem
- Cadw defnydd post mortem
- Cadw samplau anatomaidd
- Cadw defnydd gan berson byw
- Arddangos corff neu ddefnydd gan berson sydd wedi marw.
Bydd yn rhaid i sefydliadau sy’n cadw meinwe a chelloedd dynol i ddiben therapiwtig fod yn drwyddedig ar ôl Ebrill 7 2006. Bydd yn rhaid i bob sector arall fod yn drwyddedig ar ôl Medi 1 2006.
Ni all trwydded gael ei chaniatáu ond ar gyfer man penodol a gweithgaredd benodol. Bydd yr HTA yn codi tâl am y drwydded ar ddaliwr y drwydded.
Archwiliad
Bydd ein rhaglen archwilio adeiladau trwyddedig yn gymesur, gyfrifol, gyson, eglur ac at y nod; byddwn yn cydweithio â rheolyddion eraill er mwyn symleiddio ymweliadau safle ac osgoi dyblygiad.
Anelwn ein ymweliadau safle tuag at yr ardaloedd â’r risg uchaf. Yn y lle cyntaf, byddwn yn asesu hyn drwy ddefnyddio’r adroddiad cydsyniad, fydd yr ymgeiswyr yn ei lenwi pan fyddant yn ceisio am drwydded. Byddwn hefyd yn cyflawni nifer o archwiliadau ar hap bob blwyddyn, er mwyn sicrhau bod amodau’r drwydded yn cael eu gweithredu. Dan yr Cyfarwyddyd yr Undeb Ewropeaidd ar Feinwe a Chelloedd (EUTCD), byddwn yn archwilio sefydliadau sy’n cadw defnydd ar gyfer diben ddynol bob dwy flynedd o leiaf. Disgwyliwn gynnal ymweliad safle beth bynnag unwaith o fewn y dair mlynedd gyntaf o’r drwydded ym mhob sector arall.
Os bydd ein archwiliad yn dynodi problemau yn eich safle, byddwn yn cydweithio â chi er mwyn rhoddi cyngor ar sut y gallwch gyrraedd y safonau angenrheidiol. Mewn achosion eithafol, mae’n bosibl na allwn ganiatáu trwydded i chi, neu gallwn ddiddymu trwydded ar ôl iddi gael ei dosbarthu. Mae’n fwy tebyg mai gosod amodau ar drwydded wnawn ni, i gyfyngu eich ymarferion neu i orfodi gwellhad mewn safonau.