Rheoli trawsblannu
Mae’r Ddeddf Meinwe Ddyno yn gorfodi’r HTA i gymeradwyo pob trawsblaniad gan roddwyr byw, os yw’r rhoddwr yn perthyn i’r derbynnydd neu beidio. Cydweithiwn â UK Transplant er mwyn sicrhau bod y systemau priodol wedi eu gosod yn eu lle i gefnogi’r trawsblaniadau hyn.
Mae Ddeddf Meinwe Ddynol (Yr Alban) yn cynnwys darpariaethau ar roddion byw sydd bron yr un fath yn union a’r rhai yn yr Ddeddf Meinwe Ddynol.
Trwy gytundeb â Gweinidogion yr Alban, bydd gan yr HTA gyfrifoldeb dros gymeradwyo bob math o rodd byw sydd â chysylltiad â’r Alban.
Bydd Aseswyr Annibynnol (Independent Assessors neu IAs) yn cael eu awdurdodi i weithio ar ran yr HTA er mwyn asesu ceisiadau i weithredu pob trawsblaniad byw o organau solet. Gweithredant fel cynrychiolwyr yr HTA ac fel adfocadau dros y rhoddwyr. Bydd yr IA yn argymell cymeradwyaeth i drawsblaniadau cyffredin ar lefel leol. Bydd dulliau trawsblannu gafodd eu caniatáu yn ddiweddarach, neu sy’n fwy cymhleth o ran moesoldeb (e.e. os nad ydy’r rhodd wedi ei chyfeirio at berson neilltuol) yn cael eu asesu gan yr IA a’u pasio i’w cymeradwyo gan banel o aelodau’r Awdurdod.
Daw’r trefniadau newydd dan yr Ddeddf Meinwe Ddynol a’r Ddeddf Meinwe Ddynol (Yr Alban) mewn grym ar Medi 1 2006.
Rhodd marw
Mae’r dulliau a’r rheolau sy’n berthnasol i roddion gan bobl sydd wedi marw yn aros fwy neu lai yr un fath ag o’r blaen – mae’n rhaid darganfod dymuniadau’r ymadawedig cyn i’r organau neu’r feinwe gael eu cymeryd oddi wrthynt. Gall berson ddangos ei gytundeb i rodd drwy ymuno a Chofrestr Rhoddwyr Organau’r GIG, neu gario cerdyn rhodd. Os nad oes cofnod o’r cytundeb, mae’r Ddeddf Meinwe Ddynol yn caniatáu i gytundeb gael ei roddi gan berson gafodd ei enwebu gan yr unigolyn sydd wedi marw i weithredu ar ei r(h)an; neu, os nad oes person o’r fath, gan deulu’r ymadawedig.