Cyfarwyddyd yr Undeb Ewropeaidd ar Feinwe a Chelloedd (EUTCD)
Mae’r EUTCD yn gosod safonau ansawdd a diogelwch er mwyn rhoddi, caffael, profi, trin, cadw, storio a dosbarthu meinwe a chelloedd dynol.
Ei fwriad yw sicrhau diogelwch ac ansawdd y feinwe a’r celloedd a ddefnyddir mewn trawsblaniadau, ac i’w gwneud yn fwy diogel ac yn haws i gyfnewid meinwe a chelloedd rhwng gwledydd yr Undeb Ewropeaidd.
Yr HTA fydd yr awdurdod cymwys yn y DU er mwyn rheoli sefydliadau meinwe sy’n cadw meinwe ddynol er diben defnydd dynol (h.y. er mwyn trawsblannu).