Codau Ymarfer
Un o’n gweithgareddau cyfreithiol yw cyhoeddi Codau Arferion sy’n rhoddi cyngor ac arweiniad ar y prif feysydd sydd o fewn ein cyfrifoldeb, a gosod y safonau ddisgwylir gan ymarferwyr. Mae’r Codau wedi datblygu drwy ymgynghoriad a mewnbwn gan grwpiau sydd â diddordeb yn y maes, drwy ymgynghori ar-lein, a thrwy weithdai ledled y DU.
Mae’n chwe Chôd cyntaf yn awr wedi eu cyhoeddi (isod). Dylai’r rhain gael eu hystyried yn gyflenwol.
1. Cytundeb
2. Rhoddi organau solet, meinwe a chelloedd i gael eu trawsblannu
3. Archwiliadau post mortem
4. Archwiliadau anatomaidd
5. Tynnu, cadw a chael gwared ag organau dynol a meinwe
6. Rhoddi mêr esgyrn alogenëig a bôn-gelloedd amgantol y gwaed i gael eu trawsblannu.
Mae’r arweiniad a roddir yn y Codau yn addas i unrhyw un sy’n ymgymryd â gweithredoedd perthnasol. Nid yw peidio â dilyn yr arweiniad hwn yn drosedd dan y Ddeddf Meinwe Ddynol ohono’i hun, ond mae’n bosibl i ni gymryd y fath esgeulustod i ystyriaeth wrth benderfynu ar drwydded.
Byddwn yn adolygu ac yn adnewyddu ein Codau yn rheolaidd, ac efallai yn cyhoeddi Codau newydd ar agweddau gwahanol ar y Ddeddf Meinwe Ddynol, os bydd rhaid.