Jump to navigation

Awdurdod Meinwe Ddynol

Rôl yr Awdurdod Meinwe Ddynol (HTA) yw rheoli sut y ceir tynnu, cadw, defnyddio a chael gwared â chyrff, organau a meinwe ddynol, o dan sawl “Bwriad Rhestredig” – fel gwaith ymchwil, trawsblannu, ac addysg a hyfforddiant pellach – a fynegir yn y Ddeddf Meinwe Ddynol 2004.

Mae’r Ddeddf Meinwe Ddynol yn berthnasol i Loegr, Cymru a Gogledd Iwerddon. Mae deddfwriaeth ar wahân yn yr Alban – y Ddeddf Meinwe Ddynol (Yr Alban) 2006 – a bydd yr HTA yn cyflawni rhai gorchwylion ar ran Senedd yr Alban.

Sefydlwyd yr HTA ar Ebrill 1 2005, dan y Ddeddf Meinwe Ddynol. Corff Cyhoeddus Anaddrannol Gweithredol yw’r HTA. Fe’i noddir ac fe’i ariannir i raddau gan yr Adran Iechyd.

Fel rhan o’n cyfrifoldeb rheoli, fe fyddwn yn cyhoeddi Codau Ymarfer a chyfarwyddyd arall sy’n berthnasol i’r Ddeddf Meinwe Ddynol, er mwyn sicrhau bod yr adrannau a reolwn yn cadw at yr arferion gorau. Byddwn hefyd yn rhoddi cyngor a gwybodaeth i’r Ysgrifennydd Gwladol dros Iechyd a’r cyhoedd am faterion o fewn ein cyfrifoldeb.

Fel y Rheolydd o dan y Ddeddf Meinwe Ddynol, ni sydd yn gyfrifol am drwyddedu nifer o weithgareddau, ac am gynnal archwiliadau i sicrhau nad yw amodau’r drwydded yn cael eu torri. Y gweithgareddau trwyddedig rhain yw

  • Cynnal arbrawf anatomaidd
  • Cadw cyrff dynol er mwyn cynnal arbrofion anatomaidd a gwaith ymchwil perthnasol
  • Cynnal arbrofion post mortem, gan gynnwys tynnu a chadw meinwe ddynol
  • Tynnu a defnyddio cyrff neu rannau dynol ar gyfer eu dangos yn gyhoeddus
  • Cadw meinwe ddynol er mwyn unrhyw Fwriad Rhestredig arall, fel gwaith ymchwil.

Ni sydd hefyd yn gyfrifol am gymeradwyo trawsblannu organau a mêr esgyrn gan roddwyr byw.

Mae cydweithrediad yn un o’n egwyddorion sefydlol. Gweithiwn yn agos â gweithwyr proffesiynol a rhanddeiliaid – a’u gwahodd i’n helpu ni i ddatblygu ein polisïau a threfniadau rheoli. Mae canlyniadau cyntaf y cydweithrediad yma, ein chwe Chôd Ymarfer cyntaf, yn awr ar gael.

Credwn bod yn rhaid i ddatblygiadau gwyddonol a meddygol gael eu seilio ar system reolaeth rymus a chymesur os ydynt am ffynnu. Ein nod yw creu a meithrin amgylchedd lle mae cleifion a theuluoedd yn hyderus y bydd eu dymuniadau yn cael eu parchu, a lle mae gweithwyr proffesiynol yn cefnogi ac yn deall y fframwaith rheolaeth mae’n rhaid iddynt ei ddilyn.

Mae’r Awdurdod yn cynnwys 17 aelod gafodd eu penodi gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros Iechyd. Maent yn hanu o nifer o gefndiroedd meddygol, gwyddonol, cyfreithiol, gweinyddol a gwleidyddol gwahanol. Lleyg yw’r Cadeirydd ac wyth o’r aelodau (h.y. heb ddiddordeb proffesiynol ym maes meinwe dynol). Gweithwyr proffesiynol o rhai o’r grwpiau mae’r Ddeddf Meinwe Ddynol yn effeithio arnynt fwyaf yw’r wyth aelod arall. Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru a Swyddfa Gogledd Iwerddon wedi penodi un aelod yr un.

Rheolir gwaith dyddiol y corff a’n gweithrediad trwyddedu ac archwilio gan dîm craidd bach, wedi ei rannu’n bedwar bwrdd cyfarwyddo dan arweiniad prif weithredwr. Mae’r rhan fwyaf o’n swyddogaethau cynnal corfforaethol, fel cyllid ac adnoddau staffio, yn tarddu o’r tu allan.